Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

CELG(4)-20-14 Papur 2a

 

Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

 

25 Mehefin 2014

 

Papur Tystiolaeth – Cymorth y Dreth Gyngor

 

Cefndir

 

1.    Fel rhan o Adolygiad Gwariant Hydref 2010, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei bwriad i ddiddymu Budd-dal y Dreth Gyngor a lleihau gwariant ar gynlluniau i gymryd ei lle, gan 10% i ddechrau. Diddymwyd Budd-dal y Dreth Gyngor ar 31 Mawrth 2013 a throsglwyddwyd y cyfrifoldeb am ddatblygu cynlluniau i gymryd ei lle i Awdurdodau Lleol yn Lloegr a’i fabwysiadu gan Lywodraethau Cymru a’r Alban.

 

2.    Ni ddatganolwyd y swyddogaethau i Lywodraethau Cymru a’r Alban. Mae budd-daliadau nawdd cymdeithasol yn parhau heb eu datganoli ac ni throsglwyddwyd pwerau mewn perthynas â’r rhain. Cyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai’n trosglwyddo cyllid ar gyfer Cymorth y Dreth Gyngor, llai y toriad cychwynnol o 10 y cant, i’r gweinyddiaethau datganoledig gan ddisgwyl y byddent yn datblygu cynlluniau cymorth sy’n gweithredu o fewn system y Dreth Gyngor sylfaenol. Symudwyd y cyllid o Wariant a Reolir yn Flynyddol i Derfyn Gwariant Ariannol hefyd, sy’n golygu bod rhaid darparu cynlluniau’r dyfodol o fewn cyllidebau penodol Llywodraeth Cymru.

 

3.    Yn dilyn penderfyniad Llywodraeth y DU i ddiddymu Budd-dal y Dreth Gyngor, cyflwynodd Llywodraeth Cymru Gynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor ar gyfer 2013-14 sy’n cynnal hawliadau i aelwydydd cymwys. Cefnogwyd hyn gan £22 miliwn ychwanegol i ategu’r £222 miliwn a drosglwyddwyd gan Lywodraeth y DU, gan wneud cyfanswm o £244 miliwn. Mae’r dull hwn yn parhau yn 2014-15, ac mae angen i lywodraeth leol ystyried goblygiadau ariannol unrhyw ddiffyg ychwanegol sy’n codi o benderfyniadau lleol ar lefelau’r Dreth Gyngor.

 

Adolygiad o Gynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor

 

4.    Mae Llywodraeth Cymru, felly, wedi, amddiffyn aelwydydd incwm isel ac agored i niwed rhag effeithiau posibl penderfyniad Llywodraeth y DU i ddiddymu budd-dal y Dreth Gyngor a lleihau’r cyllid ar gyfer cynlluniau i gymryd ei lle. Fodd bynnag, o ystyried y cynnydd a ragwelir yng nghost cynnal yr amddiffyniad hwn, ym mis Mehefin 2013 cytunodd Gweinidogion i gynnal adolygiad i ddatblygu opsiynau a gwneud argymhellion ar gyfer cynllun teg a chynaliadwy, sy’n darparu cymaint o amddiffyniad â phosibl i aelwydydd incwm isel. Bydd yr ateb a ffefrir yn cael ei roi ar waith o 2015-16. 

 

Cyd-destun ariannol

 

5.    Trosglwyddodd Llywodraeth y DU £222 miliwn i Gyllideb Cymru ar gyfer Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor yn 2013-14 a 2014-15.  O 2015-16, ni fydd Llywodraeth y DU yn dyrannu swm penodol ar gyfer y cynlluniau hyn gan y bydd yr arian wedi’i gynnwys yng nghyllideb Cymru. Mae cyllideb Llywodraeth Cymru’n adlewyrchu addasiad llinell sylfaen i Brif Grŵp Gwariant Llywodraeth Leol sef £222 miliwn ar gyfer Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor yn 2014-15 a 2015‑16.  Ar gyfer 2014-15, mae £244 miliwn (trosglwyddiad o £222 miliwn a  £22 miliwn gan Lywodraeth Cymru) yn cael ei ddosbarthu fel rhan o’r Grant Cymorth Refeniw i gefnogi’r gwaith o ddarparu cynlluniau sy’n cynnal hawliadau, gydag Awdurdodau Lleol i ystyried unrhyw oblygiadau ariannol ychwanegol. 

 

6.    Mae’r £244 miliwn yn cael ei roi i Awdurdodau Lleol i gymryd lle’r Dreth Gyngor na allant ei chasglu o aelwydydd sy’n gymwys i dderbyn gostyngiadau. Mae’n rhan o’r incwm y caiff Awdurdodau Lleol ei wario ar wasanaethau lleol, hy nid yw’n cael ei ‘wario’ ar y cynlluniau eu hunain. Bydd Awdurdod Lleol yn profi diffyg ariannol os oes bwlch rhwng y cyllid a ddarparwyd a faint o Dreth Gyngor y gellid fod wedi’i chasglu o aelwydydd sy’n derbyn gostyngiad. Gan fod llwythi achosion yn lleihau’n gymedrol, a’r ddarpariaeth gyllido yn adlewyrchu’r swm yr oedd ei angen adeg sefydlu’r cynlluniau, mae bron i bob bwlch o’r fath yn deillio o benderfyniadau lleol am gynyddu’r Dreth Gyngor. 

 

Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor yn 2013-14

 

7.    Ym mis Rhagfyr 2013, cyhoeddais Adroddiad Interim ar Gynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor yng Nghymru, rhwng mis Mai a mis Hydref 2013:

 

http://wales.gov.uk/topics/localgovernment/finandfunding/counciltax/council-tax-support/council-tax-reduction-schemes-in-wales-interim-report/?skip=1&lang=cy

 

8.    Rhoddodd yr adroddiad y wybodaeth ddiweddaraf am weithredu Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor yng Nghymru, gan fod o gymorth i sicrhau tryloywder mewn maes lle mae llawer o gyllid yn cael ei reoli gan Lywodraeth Cymru. Yn benodol, mae’n darparu data ar lefel Awdurdodau Lleol ar lwyth achosion y cynlluniau a goblygiadau ariannu am y cyfnod o chwe mis o fis Mai i fis Hydref 2013. 

 

9.    Mae’r adroddiad yn dangos bod y llwyth achosion ledled Cymru ym mis Hydref 2013 tua 318,000 ac yn cyfrif am £246 miliwn o’r Dreth Gyngor. Gostyngodd y llwyth achosion 1.6% fesul mis dros y cyfnod rhwng mis Mai a mis Hydref. Mae’r ffigurau hyn yn rhoi cipolwg o’r holl lwyth achosion a chostau mewn perthynas ag achosion agored (byw) ar adeg benodol mewn amser, ac nid ydynt yn ystyried achosion sydd wedi cau.

 

10.Ym mis Mawrth 2014, roedd y llwyth achosion tua 316,500 ac i gyfrif am £244 miliwn. Fodd bynnag, nid yw’r ffigur hwn yn cynrychioli’r cyfanswm am y flwyddyn gan nad yw’n ystyried achosion sydd wedi cau yn ystod y flwyddyn, y disgwyliwn iddynt fod yn fwy na £2 filiwn. 

 

11.Mae gan tua 70% o ymgeiswyr hawl i gael y gostyngiad uchaf yn eu hatebolrwydd i dalu’r Dreth Gyngor yn seiliedig ar y ffaith eu bod yn derbyn budd-daliadau cymhwyso eraill (er enghraifft, Lwfans Ceiswyr Gwaith neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth).

 

12.Bydd Adroddiad Blynyddol ar Gynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor yn cael ei gyhoeddi yn yr haf. Bydd hwn yn rhoi manylion am gyfanswm gwariant y cynlluniau ar achosion agored a chaeedig am y flwyddyn 2013-14. Bydd hefyd yn archwilio tueddiadau mewn llwyth achosion a goblygiadau ariannu yn ystod blwyddyn gyntaf gweithredu Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor. 

 

Dull o Adolygu

13.Pwrpas yr Adolygiad oedd ystyried yr opsiynau a darparu a/neu gomisiynu dadansoddiad o’r effaith ar ddinasyddion ac awdurdodau lleol, a gwneud argymhellion ar gyfer cynllunio cynllun teg a chynaliadwy o fewn y cyfyngiadau ariannol. Roedd yr adolygiad yn cynnwys nifer o ffrydiau gwaith a thasgau:

 

·         Modelu cost debygol Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor yn y dyfodol, yn seiliedig ar ragdybiaethau am gyllidebau’r dyfodol a chynnydd yn y Dreth Gyngor

·         Dadansoddiad o natur ac effaith y Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a gyflwynwyd gan Awdurdodau Lleol Lloegr, gan ddefnyddio gwybodaeth a gafwyd gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, y Swyddfa Archwilio Genedlaethol, y Fforwm Polisi Newydd, Sefydliad Joseph Rowntree ac eraill

·         Caffael dull cywir o fodelu effeithiau tebygol gwahanol opsiynau ar gartrefi ar lefel Awdurdodau Lleol a Chymru gyfan

·         Asesiad llawn o effeithiau Cydraddoldeb a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn

·         Ymgynghori â rhanddeiliaid, drwy Grwpiau Gorchwyl a Gorffen a Grwpiau Cyfeirio (gweler isod), drwy fynychu grwpiau perthnasol Awdurdodau Lleol a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a thrwy ymgynghoriad ffurfiol â rhanddeiliaid o fis Rhagfyr 2013 i fis Mawrth 2014

 

14.Sefydlwyd dau grŵp i gefnogi gwaith yr Adolygiad:

·         Grŵp Gorchwyl a Gorffen dan gadeiryddiaeth Cyfarwyddwr Llywodraeth Leol, i oruchwylio’r gwaith o gyflawni’r adolygiad ac argymhellion ar gyfer dyfodol Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor. Roedd yr aelodau’n cynnwys cynrychiolwyr o CLlLC, SoLACE, Cyngor ar Bopeth, ymarferwyr budd-daliadau Awdurdodau Lleol a swyddogion Llywodraeth Cymru;

·         Grŵp Cyfeirio, dan gadeiryddiaeth Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllid a Pherfformiad Llywodraeth Leol, i ddarparu cyngor a chymorth arbenigol i’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen. 

 

Canlyniad yr adolygiad

 

15.Wrth gynnal yr adolygiad hwn fe wnaethom ystyried y cyd-destun ariannol yn ofalus, ynghyd â’r dystiolaeth a ddaw i’r amlwg am yr effaith yn Lloegr mewn ardaloedd Awdurdodau Lleol lle y gwelwyd gostyngiad mewn hawliadau. Crëwyd model o effaith y gwahanol opsiynau, yn enwedig y goblygiadau i grwpiau â nodweddion gwarchodedig o dan y Ddeddf Cydraddoldeb. Roedd y dadansoddiad hwn yn llywio Asesiad manwl o’r Effaith ar Gydraddoldeb ac asesiad Comisiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Buom hefyd yn ymgynghori ag ystod eang o randdeiliaid, gan ofyn am sylwadau ar a ddylid cadw hawliadau ai peidio ac effeithiau tebygol hynny, yn seiliedig ar y gwahanol opsiynau ar gyfer lleihau hawliadau. Gofynnwyd am sylwadau ar oblygiadau cydraddoldeb yn arbennig, Mae’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn darparu cymorth, cyngor a her gydol yr adolygiad.

 

16.Y canlyniad yw bod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu parhau gyda’r trefniadau sydd ar waith ar hyn o bryd i ddarparu Cymorth y Dreth Gyngor drwy ein Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor. Bydd hawl llawn i gymorth yn cael ei gynnal drwy gynllun fframwaith cenedlaethol sengl am o leiaf ddwy flynedd o 2015-16. Cyhoeddais Ddatganiad Ysgrifenedig ar hyn ar 5 Mehefin, ynghyd â chrynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad, yr Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb ac asesiad Comisiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.

 

17.Mae’r penderfyniad hwn yn golygu bod Llywodraeth Cymru’n parhau i amddiffyn aelwydydd incwm isel ac agored i niwed, drwy sicrhau bod pob ymgeisydd cymwys yn derbyn eu hawl llawn i Gymorth y Dreth Gyngor. Mae’r grwpiau hyn eisoes yn cael trafferth i ymdopi ag effeithiau diwygio’r system les. Bydd hyn yn osgoi’r effeithiau a welir yn Lloegr, lle mae dros ddwy filiwn o aelwydydd incwm isel yn wynebu talu mwy am eu Treth Gyngor. Yn Lloegr, mae atebolrwydd y Dreth Gyngor yn amrywio yn ôl Awdurdodau Lleol ac mae nifer o gynlluniau gwahanol ar waith. Fodd bynnag, ar gyfartaledd, mae aelwydydd sydd wedi’u heffeithio nawr yn talu £154 y flwyddyn o Dreth Gyngor. Mae ymholiadau am ddyledion y Dreth Gyngor i Cyngor ar Bopeth wedi cynyddu 40% mewn rhai ardaloedd o Loegr ers cyflwyno taliadau isaf y Dreth Gyngor. Mae gwaith ymchwil hefyd yn dangos bod Awdurdodau Lleol yn Lloegr sydd wedi lleihau hawliadau wedi gweld cynnydd o 30% yn nifer y gorchmynion atebolrwydd a gyhoeddir gan Lysoedd Ynadon am beidio â thalu’r Dreth Gyngor. Byddai darlun tebyg wedi’i weld yng Nghymru pe bai hawliadau wedi’u lleihau. 

 

18.Rydym yn bwriadu parhau i ariannu Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor ar y lefelau cyfredol, a bydd angen i lywodraeth leol gynllunio ar gyfer unrhyw oblygiadau ariannol ychwanegol sy’n codi o gynnydd lleol yn y Dreth Gyngor. Mae’r trefniant hwn yn adlewyrchu bod y cyfrifoldeb am y cynlluniau’n cael ei rannu a’r ffaith bod llwyth achosion yn lleihau’n raddol. Mae cyllid Llywodraeth Cymru’n disodli incwm y Dreth Gyngor na all Awdurdodau Lleol ei gasglu o’r aelwydydd sy’n gymwys am ostyngiad.

 

Yr hirdymor

 

19.Mae’r penderfyniad i gynnal hawliadau am o leiaf ddwy flynedd arall yn darparu sefydlogrwydd a sicrwydd i’r rhai sy’n derbyn gostyngiad yn sgil Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor ac Awdurdodau Lleol. I Awdurdodau Lleol, mae hefyd yn osgoi goblygiadau gweinyddol o orfod casglu biliau bach a mynd ar ôl dyledion aelwydydd nad oedd yn gymwys i dalu’r Dreth Gyngor o’r blaen, ac felly, nad oedd wedi arfer ei thalu. Yn yr hirdymor, bydd angen i ni ystyried goblygiadau unrhyw ostyngiad yn nifer yr Awdurdodau yn sgil uno, ac effeithiau cyflwyno’r Credyd Cynhwysol yn llawn.

 

 

Lesley Griffiths AC

Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth